Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Chwefror 2016
Amser: 09.02 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3370
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Mark Isherwood AC Bethan Jenkins AC Gwyn R Price AC John Griffiths AC (yn lle Gwenda Thomas AC) Lindsay Whittle AC |
Tystion: |
Anthony Barrett, Swyddfa Archwilio Cymru Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru Dominic MacAskill, Unsain |
Staff y Pwyllgor: |
Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Alys Thomas (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 399KB) Gweld fel HTML (337KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Bethan Jenkins AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Alison Ward, Is-gadeirydd Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru (Solace Cymru)
2.2 Datganodd yr Aelodau canlynol fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Peter Black
· Lindsay Whittle
2.3 Cytunodd Alison Ward i ddarparu manylion i'r Pwyllgor ynglŷn â sut y mae Solace yn credu y gallai cynghorau cymuned mwy o faint weithredu a pha gyfrifoldebau y gallent fod yn atebol amdanynt.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Anthony Barrett, Swyddfa Archwilio Cymru
· Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru
· Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru
3.2 Cytunodd Anthony Barrett i ddarparu manylion i'r Pwyllgor ynglŷn ag unrhyw ddadansoddiad o werth am arian a chostau/manteision a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ôl ad-drefnu awdurdodau lleol ym 1995/96.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dominic MacAskill, Rheolwr Rhanbarthol
4.2 Datganodd yr Aelodau canlynol fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A:
5.1 Nododd y Pwyllgor y papur.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4.
8.1 Nododd y pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg at y Prif Weinidog.